Cyfrifiad Tai Angen Lleol ardal Cyngor Llanllyfni |
Angen am dai gan bobl leol ardal Cyngor Llanllyfni
Annwyl Breswylydd,
Mae Cyngor Cymuned Llanllyfni yn sylweddoli bod darparu tai i bobl leol yn yr ardal hon yn bwnc hollbwysig ac maent wedi gofyn i mi fel Hwylusydd Tai Gwledig sy’n frocer annibynnol i ganfod faint o angen sydd yn yr ardal ynghyd a beth yw’r diddordeb mewn cynllun cyffrous ar gyrion pentref Penygroes.
Mae’r holiadur yma yn cael ei yrru i bob tŷ yn ardal y Cyngor Cymuned ac mae croeso i chi lenwi’r holiadur ynghlwm os ydych mewn angen symud i lety mwy addas na’r hyn sydd gennych neu i gynnig sylw ar gynllun ar gyrion y pentref.
Os oes yna rywun am ddychwelyd yn ôl i’r ardal yna mae croeso i chi roi eu manylion i mi er mwyn i mi yrru holiadur atynt.
Fel roeddwn yn dweud, mae safle Ty’n y Weirglodd dros y ffordd i Ganolfan Plas Silyn wedi ei glustnodi ar gyfer tai gan y Cyngor Sir ac mae Grŵp Cynefin am ddatblygu tai addas sy’n ateb yr angen lleol.
Y bwriad gyda’r safle yn Nhy’n y Weirglodd yw ar gyfer datblygiad cymysg o dai i’w prynu ar y farchnad, tai gostyngol eu pris, a thai rhent canolraddol.
Bydd y gwaith arolwg yma yn sail i’r cynlluniau drafft ar gyfer y datblygiad. Bydd ymgynghoriadau pellach wedyn i dderbyn sylwadau ar y rhain a bydd y Cyngor Cymuned yn cael cyfle i gymryd rhan bwysig yn y gwaith yma.
Os oes gan unrhyw un diddordeb bod yn rhan o’r drafodaeth i ddatblygu’r cynllun yma ac yn awyddus i gyfrannu yna mae croeso i chi adael i mi wybod drwy lenwi Rhan 3 o’r holiadur.
Dyddiau cynnar ydy hi ar beth yn union fydd yn cael ei ystyried ar y safle, ond mae eich ymateb chi yn holl bwysig i lunio'r hyn fydd yno.
Hoffwn i chi i ymateb i’r arolwg hwn os ydych
a. Yn ystyried eich hun mewn angen am dŷ newydd rŵan neu yn y dyfodol yna llenwch
- RHAN 1 a RHAN 2
b. Am ymateb i’r datblygiad a phynciau perthnasol eraill llenwch
- RHAN 3
Dim ond 5-10 munud fydd hi’n ei gymryd i chi lenwi’r holiadur, ond os ydych angen cymorth i’w lenwi yna dwi’n ddigon parod i’ch cynorthwyo - mae fy manylion isod.
Gellir cael ffurflen arall drwy gysylltu â mi isod os oes mwy nag un person am symud
Byddaf yn dadansoddi eich atebion yn gyfrinachol ac yn paratoi adroddiad o’r data fy hun yn y fath fodd fel na ellir adnabod unrhyw unigolion na chartrefi.
A fyddech mor garedig a chwblhau’r holiadur cyn gynted â phosibl os gwelwch yn dda, erbyn Dydd Gwener y 9fed o Ragfyr 2016?
Raffl

Os hoffech gyfle i gymryd rhan mewn raffl am wobr am lenwi’r holiadur yma yna rhowch eich enw, rhif ffôn a’ch cyfeiriad / e-bost ar waelod yr holiadur cyn ei ddychwelyd.
Diolch yn fawr iawn i chi rhag blaen am eich cymorth yn y gwaith pwysig yma.
Yn gywir,
Arfon (Hughes)
Hwylusydd Tai Gwledig
4 Stryd Fawr, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, LL41 3ES
arfon.hughes@grwpcynefin.org / http://www.grwpcynefin.org/cy/
Ffon: 01286 889289 / 07979803547